Announcements: Public Appointments and
Extensions
Marian Wyn Jones and Rowan
Gardner reappointed as Independent Members of Digital Health and Care Wales
(DHCW).
Role of Digital Health and Care Wales (DHCW)
DHCW is responsible for ensuring the delivery of first-class digital health
and care services enabling effective, efficient and safer decision-making
through the provision of access to content-rich, person-focused health and
care data and information.
A Healthier Wales sets out the Welsh Government’s commitment to
significantly increase investment in digital Health and Care. This will be a
key part of transforming our health and social care system in Wales. A
Healthier Wales acknowledges the significant challenge of driving digital
change at pace and scale. It identifies priority areas for investment,
describes a new ‘open platform’ approach to digital innovation, and
recognises the need to strengthen national leadership and delivery
arrangements.
Role of Independent
Members
Independent Members of the Board are responsible for:
· establishing and taking forward the
strategic aims and objectives of DHCW consistent with its overall purpose and
within the policy and resources framework determined by the Minister for
Health and Social Services;
· contributing to the work of the Board, based
upon their independence, past experience and knowledge, and ability to stand
back from the day-to dayoperational management;
· analysing and critically reviewing complex
information and contributing to sound decision-making, ensuring the decisions
are open and transparent;
· ensuring compliance with any statutory or
administrative requirements in respect of the use of public funds and
legislation relevant to the organisation;
· ensuring the organisation operates within
the limits of its statutory authority and any delegated authority agreed with
Welsh Government, and in accordance with any other conditions relating to the
use of public funds and legislative requirements
· ensuring that, in reaching decisions, it
takes into account guidance issued by the Welsh Government;
· ensuring that it receives, reviews and
scrutinises regularly, financial information concerning the management of
DHCW;
· ensuring that it is informed in a timely
manner about any concerns as to the activities of DHCW and that, where
applicable, it provides positive assurance to the Minister for Health and
Social Services, via the Health and Social Services Group that appropriate
remedial action has been taken to address any such concerns;
· demonstrating high standards of corporate
governance at all times, including by using appropriate Committees to help
the Board to receive assurance and address key financial and other risks;
· ensuring a positive culture and promote the
values and standards of conduct for the organisation and staff; and
· working closely with NHS bodies, the public,
private and third sector organisations, making sure that the views of
patients, carers and families are fully involved in helping to shape, develop
and improve services.
Term of Reappointment
The Minister for
Health and Social Services has agreed to reappoint Marian Wyn Jones and Rowan
Gardner as Independent Members of Digital Health and Care Wales (DHCW) for 4
years from 1st April 2023.
This appointment was
made in accordance with the Governance Code on Public Appointments: Microsoft Word -
20161216 Governance Code FINAL in CO template.docx
(publishing.service.gov.uk)
Declaration of
Political Activity
Both individuals have
declared no political activity within the last five years
All appointments are
made on merit and political activity plays no part in the selection process.
Cyhoeddiadau: Penodiadau
Cyhoeddus ac Estyniadau
Ailbenodi Marian Wyn Jones a Rowan Gardner fel Aelodau Annibynnol o
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am gyflawni gwasanaethau iechyd
a gofal digidol o'r radd flaenaf sy'n sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu
gwneud mewn modd effeithiol, effeithlon a mwy diogel drwy ddarparu data a
gwybodaeth iechyd a gofal sy'n helaeth eu cynnwys ac sy’n canolbwyntio ar yr
unigolyn.
Mae Cymru Iachach
yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol yr arian y mae'n ei
fuddsoddi ym maes iechyd a gofal digidol. Bydd hyn yn rhan annatod o'r gwaith
o drawsnewid ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cymru
Iachach yn cydnabod yr her sylweddol sydd ynghlwm wrth ysgogi newid
digidol yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae'n nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi, yn disgrifio dull ‘platfform agored’ newydd o arloesi digidol, ac
yn cydnabod yr angen i gryfhau trefniadau arwain a chyflawni cenedlaethol.
Rôl yr Aelodau Annibynnol
Mae Aelodau Annibynnol o'r Bwrdd yn gyfrifol am y canlynol:
· sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion
strategol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyson â'i ddiben cyffredinol ac yn unol â’r fframwaith polisi ac
adnoddau a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· cyfrannu at waith y Bwrdd ar sail eu
hannibyniaeth, eu profiad yn y gorffennol a'u gwybodaeth, yn ogystal â'u
gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
· dadansoddi gwybodaeth gymhleth a'i hadolygu'n
feirniadol a chyfrannu at y gwaith o wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau
bod penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw;
· sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion
statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus yn ogystal
ag unrhyw ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r sefydliad;
· sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn
terfynau ei awdurdod statudol a therfynau unrhyw awdurdod dirprwyedig y
cytunir â Llywodraeth Cymru arno, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n
ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a gofynion deddfwriaethol;
· sicrhau, wrth wneud penderfyniadau, fod y
Bwrdd yn cymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru;
· sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybodaeth
ariannol sy'n ymwneud â rheoli Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn adolygu'r
wybodaeth honno ac yn craffu arni yn rheolaidd;
· sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybod yn amserol
am unrhyw bryderon ynghylch gweithgareddau Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'i
fod, pan fo'n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i'r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod
camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon o'r
fath;
· dangos safonau uchel o lywodraethu
corfforaethol bob amser, gan gynnwys drwy ddefnyddio Pwyllgorau priodol i
helpu'r Bwrdd i gael sicrwydd ac i fynd i'r afael â risgiau ariannol
allweddol a risgiau eraill;
· sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd
a safonau ymddygiad i'r sefydliad a'r staff;
· gweithio'n agos gyda chyrff y GIG, y cyhoedd, sefydliadau
preifat a’r trydydd sector, gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a
theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn wrth helpu i lywio, datblygu a gwella
gwasanaethau.
Cyfnod yr Ailbenodiad
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i
ailbenodi Marian Wyn Jones a Rowan Gardner fel Aelodau Annibynnol o Iechyd a
Gofal Digidol Cymru am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2023.
Gwnaed y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau
Cyhoeddus: Microsoft Word - 20161216 Governance Code FINAL in CO template.docx
(publishing.service.gov.uk)
Datganiad o Weithgarwch Gwleidyddol
Datganodd y ddau unigolyn nad oeddent wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch
gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch
gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.