Closed Applications (Archive)

2 x Board Members - S4C / 2 x Aelod o’r Bwrdd - S4C (Sianel Pedwar Cymru)

Body
S4C (Sianel Pedwar Cymru)
Appointing Department
Department for Digital, Culture, Media and Sport
Sector
Culture, Media & Sport
Location
The S4C Board meets around every six weeks. Currently due to the Covid-19 pandemic, Board and Sub-Committee meetings are being held over Zoom. Prior to the pandemic, the Board would meet in S4C’s headquarters in Carmarthen, and also in its other offices in Caernarfon and Cardiff during the year. It also occasionally holds public meetings across Wales. In future, it is likely that meetings of the Board and its Sub-Committees will be a mixture of in person and virtual. Mae Bwrdd S4C yn cyfarfod bob rhyw chwe wythnos. Ar hyn o bryd, oherwydd pandemig Covid-19, mae cyfarfodydd y Bwrdd a’r Is-bwyllgorau yn cael eu cynnal dros Zoom. Cyn y pandemig, byddai’r Bwrdd yn cyfarfod ym mhencadlys S4C yng Nghaerfyrddin, a hefyd yn ei swyddfeydd eraill yng Nghaernarfon a Chaerdydd yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru o bryd i’w gilydd. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd cyfarfodydd y Bwrdd a’i Is-bwyllgorau yn gymysgedd o wyneb yn wyneb a thros y we.
Number of Vacancies
2
Remuneration
£9,650 per annum. Reasonable expenses may be claimed. £9,650 y flwyddyn. Gellir hawlio treuliau rhesymol.
Time Requirements
The time commitment for members of the Board is a nominal one day per week. Yr ymrwymiad amser ar gyfer aelodau’r Bwrdd yw un diwrnod yr wythnos.

Campaign Timeline

  1. Competition Launched

    19/08/2021

  2. Closed for Applications

    30/09/2021 at 12:00

  3. Panel Sift

    21/10/2021

  4. Final Interview Date

    08 and 09 December

  5. Announcement

    TBC

Assessment Panel

Panel Member
Claire Bradshaw
Panel Role
Panel Chair
Positions
DCMS Deputy Director for Media Policy Departmental Official
Show more information
Political Activity-
Notes-
Panel Member
Rhodri Williams
Positions
Chair, S4C Representative of Organisation
Show more information
Political Activity-
Notes-
Panel Member
Howell James CBE
Positions
Independent Member
Show more information
Political Activity-
Notes-
Panel Member
Chris Herdman
Positions
Head of News, Wales Office Other Panel Member
Show more information
Political Activity-
Notes-
Panel Member
Gerwyn Evans
Positions
Deputy Director, Creative Wales Other Panel Member
Show more information
Political Activity-
Notes-

Vacancy Description

The Secretary of State for Digital, Culture, Media and Sport is seeking to appoint up to two outstanding individuals as Non-Executive Members of the S4C Board.

DCMS is committed to eliminating discrimination and advancing equality of opportunity in its public appointments. We particularly encourage applicants from underrepresented groups, those based outside London and the South-East and applicants who have achieved success through non-traditional educational routes. This ensures that boards of public bodies benefit from a full range of diverse perspectives and are representative of the people they serve.The Role of S4C MembersThe S4C Board consists of the Chair and up to eight other members, each appointed by the Secretary of State for Digital, Culture, Media and Sport. Members bring varying skills and experience to the Board, though they are all expected to ensure that S4C fulfils its public service remit and that public and licence fee funds allocated to S4C are properly utilised.Board Members will also be required to ensure that S4C’s public services are provided in accordance both with S4C’s statutory remit and the provisions of the current Partnership Agreement agreed between S4C and the BBC. Board Members are expected to:

  • Function collectively as the unitary board of S4C and provide support and advice, and also ensure appropriate challenge to and accountability of the Chief Executive and his executive team.
  • Support the Chair, in liaison with the Chief Executive, in overseeing the relationship with DCMS, the BBC, Ofcom and other stakeholders including the Welsh Government and the independent production sector.
  • Undertake public engagement duties as necessary on behalf of S4C including public meetings and functions across Wales.
  • Attend Board meetings and any special meetings/awaydays, and attending sub-committees of the Board as necessary.

The Board seeks to ensure that its members, between them, are able to draw on a wide range of expertise and knowledge of particular fields relevant to the work of S4C. These include, but are not restricted to:

  • Broadcasting, digital media and the wider creative industries
  • Welsh language
  • Communications and marketing
  • Business and commerce
  • Finance, audit and assurance

Following the independent review of S4C published in March 2018, the governance of S4C is now based on a Unitary Board model (in place of the previous non-exec Authority Board). Until primary legislation is introduced to facilitate a number of elements of the proposed structure, the Board shall operate as a Shadow Unitary Board in accordance with the Board’s new Standing Orders. The appointed Members are expected to continue in their roles when the statutory board is constituted.

Cyflwyniad

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn awyddus i benodi hyd at ddau unigolyn eithriadol yn Aelodau Anweithredol o Fwrdd S4C.

Mae’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ei phenodiadau cyhoeddus. Rydym yn annog yn benodol ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, y rheini sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr ac ymgeiswyr sydd wedi cael llwyddiant drwy lwybrau addysgol annhraddodiadol. Mae hyn yn sicrhau bod byrddau cyrff cyhoeddus yn elwa o ystod lawn o safbwyntiau amrywiol ac yn cynrychioli’r bobl maent yn eu gwasanaethu. Rôl Aelodau S4C Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, pob un wedi’i benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae aelodau’n dod â sgiliau a phrofiad amrywiol i’r Bwrdd, er bod disgwyl i bob un ohonynt sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus a bod arian cyhoeddus a chyllid ffi’r drwydded a ddyrennir i S4C yn cael eu defnyddio’n briodol.Bydd gofyn i Aelodau’r Bwrdd hefyd sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus S4C yn cael eu darparu yn unol â chylch gwaith statudol S4C a darpariaethau’r Cytundeb Partneriaeth presennol y mae S4C a’r BBC wedi cytuno arno rhyngddynt. Disgwylir i Aelodau’r Bwrdd wneud y canlynol:

  • Gweithredu ar y cyd fel bwrdd unedol S4C a darparu cefnogaeth a chyngor, yn ogystal â herio’r Prif Weithredwr a’i dîm gweithredol yn briodol a sicrhau eu hatebolrwydd. 
  • Cefnogi’r Cadeirydd, mewn cysylltiad â’r Prif Weithredwr, i oruchwylio’r berthynas â DCMS,  y BBC, Ofcom a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r sector cynhyrchu annibynnol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ôl yr angen ar ran S4C gan gynnwys digwyddiadau a chyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru.
  • Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ac unrhyw gyfarfodydd arbennig/diwrnodau cwrdd i ffwrdd, a mynychu is-bwyllgorau’r Bwrdd yn ôl yr angen.

Mae’r Bwrdd yn ceisio sicrhau bod ei aelodau, rhyngddynt, yn gallu manteisio ar ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth am feysydd penodol sy’n berthnasol i waith S4C. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • Darlledu, y cyfryngau digidol a’r diwydiannau creadigol ehangach
  • Y Gymraeg
  • Cyfathrebu a marchnata
  • Busnes a masnach
  • Cyllid, archwilio a sicrwydd

Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o S4C a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, mae trefn lywodraethu S4C bellach yn seiliedig ar fodel Bwrdd Unedol (yn lle’r Bwrdd Awdurdod anweithredol blaenorol). Hyd nes y cyflwynir deddfwriaeth sylfaenol i hwyluso nifer o elfennau’r strwythur arfaethedig, bydd y Bwrdd yn gweithredu fel Bwrdd Unedol Cysgodol yn unol â Rheolau Sefydlog newydd y Bwrdd. Disgwylir i’r Aelodau a benodir barhau yn eu rolau pan fydd y bwrdd statudol yn cael ei sefydlu.

Person Specification

Essential CriteriaAll successful candidates must be able to demonstrate:

  • An understanding of, and commitment to, S4C’s objectives;
  • Experience of broadcasting, digital media and the wider creative industries;
  • Strong understanding of the key challenges and opportunities facing S4C and public service broadcasting in the UK, and the broader media sector and creative industries as a whole;
  • The ability to work at board level and an understanding of the role of a Unitary Board and its relationship with its funding bodies;
  • The ability to contribute effectively to future strategy development including the unique partnership with the BBC;
  • Private, public or third sector experience, excellent communication skills and the ability to represent S4C with confidence to a wide range of stakeholder groups.

The Board conducts most of its business in Welsh and the successful candidates will therefore be expected to demonstrate Welsh language proficiency, which will be tested at interview. S4C is able to provide some support to those who do not regularly use Welsh in a professional capacity.

Meini Prawf Hanfodol y Person 

Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus allu dangos:

  • Dealltwriaeth o amcanion S4C ac ymrwymiad iddynt;
  • Profiad o ddarlledu, y cyfryngau digidol a’r diwydiannau creadigol ehangach;
  • Dealltwriaeth gadarn o’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu S4C a darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, a’r sector cyfryngau ehangach a’r diwydiannau creadigol fel cyfangorff;
  • Y gallu i weithio ar lefel bwrdd a dealltwriaeth o rôl Bwrdd Unedol a’i berthynas â’i gyrff cyllido;
  • Y gallu i gyfrannu’n effeithiol at ddatblygu strategaeth yn y dyfodol gan gynnwys y bartneriaeth unigryw â’r BBC;
  • Profiad o’r sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gynrychioli S4C yn hyderus yng nghyswllt amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid.

Mae’r Bwrdd yn cynnal y rhan fwyaf o’i fusnes yn Gymraeg ac felly bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos hyfedredd yn y Gymraeg, a fydd yn cael ei brofi yn y cyfweliad. Mae S4C yn gallu darparu rhywfaint o gefnogaeth i’r rheini nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd yn eu rôl broffesiynol.