National Lottery Community Fund - Chair of Wales Funding Committee
- Body
- National Lottery Community Fund / Cronfa Gymunedol Community Fund
- Appointing Department
- Department for Digital, Culture, Media and Sport
- Sectors
- Charity & Public Sector, Culture, Media & Sport
- Location
- Meetings will take place in London and Wales.
- Number of Vacancies
- 1
- Remuneration
- The remuneration will be £24,000 per annum. The role is not pensionable. Expenses will be paid. / Y tâl fydd £24,000 y flwyddyn. Nid yw’r rôl yn bensiynadwy. Telir treuliau.
- Time Requirements
- The Board meets quarterly, including a two-day meeting with overnight stay. There is also a Board and Committee day once a year. Meetings take place in London and another location in the UK once or possibly twice a year; therefore some travel is required to attend meetings across the UK. The Wales Committee meets quarterly plus two additional away days per annum. In addition, as a Board member and Wales Chair you will meet with strategic partners, attend events and represent the Fund. Board and Committee members also provide informal support and advice to the executive drawing on their specific expertise and on occasion represent the Fund at events or assist the Fund with networking. The specific time commitment of individual Board members will be a matter for discussion with the Chair. The time commitment can be up to 60 days per year. / Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter, gan gynnwys cyfarfod deuddydd gydag arhosiad dros nos. Mae diwrnod Bwrdd a Phwyllgor hefyd unwaith y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd yn Llundain a lleoliad arall yn y DU unwaith neu ddwywaith y flwyddyn o bosibl; felly mae angen rhywfaint o deithio i fynychu cyfarfodydd ledled y DU. Mae Pwyllgor Cymru yn cyfarfod bob chwarter ynghyd â dau ddiwrnod ychwanegol i ffwrdd y flwyddyn. Yn ogystal, fel aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd Cymru byddwch yn cyfarfod â phartneriaid strategol, yn mynychu digwyddiadau ac yn cynrychioli’r Gronfa. Mae aelodau’r Bwrdd a’r Pwyllgor hefyd yn rhoi cymorth a chyngor anffurfiol i’r weithrediaeth gan ddefnyddio eu harbenigedd penodol ac weithiau maent yn cynrychioli’r Gronfa mewn digwyddiadau neu’n cynorthwyo’r Gronfa gyda rhwydweithio. Bydd ymrwymiad amser penodol aelodau unigol o’r Bwrdd yn fater i’w drafod gyda’r Cadeirydd. Gall yr ymrwymiad amser fod hyd at 60 diwrnod y flwyddyn.
Campaign Timeline
-
Competition Launched
25/09/2020
-
Closed for Applications
01/11/2020
-
Panel Sift
w/c 23rd November
-
Final Interview Date
w/c 18th January
-
Announcement
30/06/2021
Announcement
An announcement has been made on the outcome of this appointment.
Assessment Panel
- Panel Member
- Maria Nyberg
- Added
- 25/09/2020
- Panel Role
- Panel Chair
- Positions
- Deputy Director Departmental Official
Show more information
Political Activity | - |
---|---|
Notes | - |
- Panel Member
- John Mothersole
- Added
- 25/09/2020
- Positions
- Chair of England Funding Committee Representative of Organisation
Show more information
Political Activity | - |
---|---|
Notes | - |
- Panel Member
- Cindy Butts
- Added
- 25/09/2020
- Positions
- Independent Member
Show more information
Political Activity | - |
---|---|
Notes | - |
- Panel Member
- Melanie Kinsey
- Added
- 25/09/2020
- Panel Role
- Other Panel Member
- Positions
- Wales Departmental Official
Show more information
Political Activity | - |
---|---|
Notes | - |
Vacancy Description
The Role – Wales Committee Chair
- Agree the strategic direction of the portfolio to deliver People in the Lead in Wales in conjunction with the committee and executive team.
- Ensure the Board is engaged and aware of key issues and opportunities which impacts the Fund’s work in Wales.
- Bring insight and perspective to the executive to continually improve The Fund’s impact through world class funding approaches.
- Ensure that programme and funding decisions fit within the Fund’s accountability framework, advised by the executive.
- Shape and sustain a group of diverse and high-quality committee members that has appropriate knowledge and understanding of community and public life across Wales.
- Ensure that the committee individually and collectively operates to the highest standards and performance.
- Oversee decisions on major funding applications directly or through specialist committees.
- Review and reflect on the shape and development of the Wales portfolio,
- Act as an ambassador for The National Lottery Community Fund in Wales and at times the UK.
- Find out more about the current Wales committee members on our website here.
Y rôl – Cadeirydd Pwyllgor Cymru
- Cytuno ar gyfeiriad strategol y portffolio i ddarparu Pobl yn Arwain yng Nghymru ar y cyd â’r pwyllgor a’r tîm gweithredol.
- Sicrhau bod y Bwrdd yn ymgysylltu ac yn ymwybodol o faterion a chyfleoedd allweddol sy’n effeithio ar waith y Gronfa yng Nghymru.
- Dod â mewnwelediad a safbwynt i’r weithrediaeth er mwyn gwella effaith y Gronfa drwy ddulliau ariannu o’r radd flaenaf.
- Sicrhau bod penderfyniadau rhaglenni a chyllid yn cyd-fynd â fframwaith atebolrwydd y Gronfa, a gynghorir gan y weithrediaeth.
- Llunio a chynnal grŵp o aelodau pwyllgor amrywiol o ansawdd uchel sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o fywyd cymunedol a chyhoeddus ledled Cymru.
- Sicrhau bod y pwyllgor yn gweithredu’n unigol ac ar y cyd i’r safonau a’r perfformiad uchaf.
- Goruchwylio penderfyniadau ar geisiadau ariannu mawr yn uniongyrchol neu drwy bwyllgorau arbenigol.
- Adolygu ac ystyried cyflwr a datblygiad portffolio Cymru.
- Gweithredu fel llysgennad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac, ar adegau, y DU.
- Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am aelodau presennol pwyllgor Cymru ar ein gwefanyma
Person Specification
The Person:
Essential
All candidates will need to demonstrate in their application that they meet the majority of following essential criteria to a high standard:
- An appropriate understanding of the Voluntary Community and Social Enterprise sector in Wales and the ability to engage with senior stakeholders therein along with senior stakeholders in the public and private sectors.
- Experience of charitable and community funding.
- Extensive experience of operating as a non-executive, and ability to operate as a Chair
- An understanding of portfolio management, funding decision-making and oversight at a senior level.
- First class communication and inter-personal skills with the ability to challenge constructively.
- A commitment to improve diversity and inclusion.
- An understanding of the importance of the Welsh language and the relevant legislative requirements.
Desirable
- Exposure to decision-making in a funding portfolio of comparable scale
- A commitment to the principles of corporate governance, regularity and accountability with regards to NDPBs.
Y person Hanfodol
Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos yn ei gais ei fod yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf hanfodol canlynol i safon uchel:
- Dealltwriaeth briodol o’r sector Cymunedol, Gwirfoddol a Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru a’r gallu i ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ynddo ynghyd ag uwch randdeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
- Profiad o gyllid elusennol a chymunedol.
- Profiad helaeth o weithredu fel rhywun anweithredol, a’r gallu i weithredu fel Cadeirydd
- Dealltwriaeth o reoli portffolios, ariannu penderfyniadau a goruchwylio ar lefel uwch.
- Cyfathrebu o’r radd flaenaf a sgiliau rhyngbersonol gyda’r gallu i herio’n adeiladol.
- Ymrwymiad i wella amrywiaeth a chynhwysiant.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.
Dymunol
- Profiad o wneud penderfyniadau mewn portffolio ariannu ar raddfa debyg
- Ymrwymiad i egwyddorion llywodraethu corfforaethol, cysondeb ac atebolrwydd mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus anadrannol.
Additional Information
The National Lottery Community Fund’s core purpose is to support people and communities thrive. This is delivered through its Strategic Framework, People in the Lead.
The Fund is the largest funder of community activity in the UK. Every year £600m of funding raised by players of the National Lottery is distributed.
Since its inception, the Fund has distributed money to a wide range of projects throughout Wales. This is done through a number of different grant programmes. In Wales in 2018/19 we awarded 706 grants worth £31.3m. These grants range from a community focused small grants scheme, National Lottery Awards for All Wales, which makes grants of up to £10,000, to our larger grant scheme People and Places making grants of up to £500,000, and major thematic grant schemes which are typically focused on a topic, for example young people or mental health. Details of the range of programmes that we fund can be found here: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding
We are currently seeking a new chair of the Wales Committee, who will also sit as a member of The National Lottery Community Fund Board. This is a time when as an organisation we support communities across the UK to adjust to and recover from the coronavirus pandemic. It is also a time when the Wales portfolio begins developing responses to the themes of homelessness and youth resilience, and planning for 2021 and beyond, strengthening our links with communities across Wales and bringing people together to share their experience and learning.
This is mirrored Fund-wide as the organisation has gone through a period of change and development, making it well placed to deliver the ambitious plans to achieve the Fund’s purpose: supporting people and communities thrive. The Fund has many of the building blocks in place and strives to learn, innovate and continuously improve in order to add even greater value to civil society and public life. The Fund is uniquely placed to act as a catalyst, bring people together and make links between practitioners and policy makers.
The organisation
The National Lottery Community Fund is established as a non-departmental public body by an Act of Parliament. The Board is responsible for the overall strategic direction of the Fund, as set out in its Strategic Framework, People in the Lead and for the Fund’s governance.
Funding decisions are delegated to five funding committees (UK, England, Northern Ireland, Scotland and Wales), Executive Officers, and at times expert committees, with the Board retaining strategic oversight for delivery of the Fund’s strategic framework: People in the Lead, and governance responsibility.
Policy responsibility for The National Lottery Community Fund, including setting policy directions, rests with the Department for Digital, Culture, Media and Sport and devolved administrations in Northern Ireland, Scotland and Wales. Policy responsibility for The National Lottery Community Fund in Wales including setting policy directions, rests with The Welsh Government.
Further information about the Fund’s Strategic Framework People in the Lead and its programmes can be found on our website.
Diben craidd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. Caiff hyn ei gyflawni drwy ei Fframwaith Strategol, Pobl yn Arwain.
Y Gronfa yw’r cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU. Bob blwyddyn, caiff £600m o gyllid a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol eu dosbarthu.
Ers ei sefydlu, mae’r Gronfa wedi dosbarthu arian i ystod eang o brosiectau ledled Cymru. Gwneir hyn drwy nifer o wahanol raglenni grant. Yng Nghymru yn 2018/19 gwnaethom ddyfarnu 706 o grantiau gwerth £31.3m. Mae’r grantiau hyn yn amrywio o gynllun grantiau bach sy’n canolbwyntio ar y gymuned, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru, sy’n rhoi grantiau o hyd at £10,000, i’n cynllun grant mwy Pobl a Lleoedd sy’n rhoi grantiau o hyd at £500,000, a chynlluniau grant thematig mawr sydd fel arfer yn canolbwyntio ar bwnc, er enghraifft pobl ifanc neu iechyd meddwl. Mae manylion yr ystod o raglenni yr ydym yn eu hariannu i’w gweld yma: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am gadeirydd newydd Pwyllgor Cymru, a fydd hefyd yn aelod o Fwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn adeg pan fyddwn ni fel sefydliad yn cefnogi cymunedau ledled y DU i addasu i’r pandemig coronafeirws ac i wella ohono. Mae hefyd yn adeg pan fydd portffolio Cymru’n dechrau datblygu ymatebion i themâu digartrefedd a gwydnwch ieuenctid, a chynllunio ar gyfer 2021 a thu hwnt, cryfhau ein cysylltiadau â chymunedau ledled Cymru a dod â phobl at ei gilydd i rannu eu profiad a dysgu.
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws y Gronfa gan fod y sefydliad wedi mynd drwy gyfnod o newid a datblygu, gan ei wneud mewn sefyllfa dda i gyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni diben y Gronfa: cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. Mae gan y Gronfa lawer o’r blociau adeiladu ar waith ac mae’n ymdrechu i ddysgu, arloesi a gwella’n barhaus er mwyn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth at gymdeithas sifil a bywyd cyhoeddus. Mae’r Gronfa mewn sefyllfa unigryw i weithredu fel sbardun, dod â phobl at ei gilydd a gwneud cysylltiadau rhwng ymarferwyr a llunwyr polisi.
Y sefydliad
Sefydlir Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel corff cyhoeddus anadrannol gan Ddeddf Seneddol. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol y Gronfa, fel y nodir yn ei Fframwaith Strategol, Pobl yn Arwain ac am lywodraethu’r Gronfa.
Dirprwyir penderfyniadau ariannu i bum pwyllgor ariannu (y DU, Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban), Swyddogion Gweithredol, ac ar adegau pwyllgorau arbenigol, gyda’r Bwrdd yn cadw goruchwyliaeth strategol ar gyfer cyflawni fframwaith strategol y Gronfa: Pobl yn Arwain, a chyfrifoldeb llywodraethu.
Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fframwaith Strategol y Gronfa Pobl yn Arwain a’i rhaglenni ar ein gwefan.
How to Apply
Additional Information
Disability Confident
We guarantee to interview anyone with a disability whose application meets the minimum criteria for the role. By ‘minimum criteria’ we mean that you must provide evidence in your application which demonstrates that you meet the level of competence required under each of the essential criteria.
If you wish to apply under this scheme, please state this in the covering email or letter when submitting your application.
Reasonable adjustments
If you would like a confidential discussion regarding any reasonable adjustments during the process, please also indicate this in the covering email or letter.
About DCMS
The Department for Digital, Culture, Media & Sport (DCMS) helps to drive growth, enrich lives and promote Britain abroad.
We protect and promote our cultural and artistic heritage and help businesses and communities to grow by investing in innovation and highlighting Britain as a fantastic place to visit. We help to give the UK a unique advantage on the global stage, striving for economic success.
DCMS is a ministerial department, supported by 45 agencies and public bodies.
If you are not completely satisfied
We aim to process all applications as quickly as possible and to treat all applicants with courtesy. If you have any complaints about the way your application has been handled, please contact publicappointments@dcms.gov.uk.
Supporting information
This process is regulated by the Office of the Commissioner for Public Appointments’ (OCPA‘s) Code of Practice. All applicants are expected to have adhered to the Seven Principles of Public Life.
Eligibility Criteria
You cannot be considered for a public appointment if:
- you become bankrupt or make an arrangement with a creditor
- your estate has been sequestrated in Scotland or you enter into a debt arrangement programme under Part 1 of the Debt Arrangement and Attachment (Scotland) Act 2002 (asp 17) as the debtor or have, under Scots law, granted a trust deed for creditors;
- you are disqualified from acting as a company director under the Company Directors Disqualification Act 1986;
- you have been convicted of a criminal offence, the conviction not being spent for the purposes of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (c. 53);
- you become subject to a debt relief order or a bankruptcy restrictions order;
- you fail to declare any conflict of interest.
Conflicts of Interest and Due Diligence
If you have any interests that might be relevant to the work of National Lottery Community Fund, and which could lead to a real or perceived conflict of interest if you were to be appointed, please provide details in your application. If you have queries about this and would like to discuss further please contact the Public Appointments Team.
Given the nature of public appointments, it is important that those appointed as members of public bodies maintain the confidence of Parliament and the public. If there are any issues in your personal or professional history that could, if you were appointed, be misconstrued, cause embarrassment, or cause public confidence in the appointment to be jeopardised, it is important that you bring them to the attention of the Advisory Assessment Panel and provide details of the issue(s) in the statement supporting your application. In considering whether you wish to declare any issues, you should also reflect on any public statements you have made, including through social media.
As part of our due diligence checks we will consider anything in the public domain related to your conduct or professional capacity. This will include us undertaking searches of previous public statements and social media, blogs or any other publicly available information. This information may be made available to the Advisory Assessment Panel and they may wish to explore issues with you should you be invited to interview. The information may also be shared with ministers and the Cabinet Office.
Hyderus Ynghylch Anabledd
Rydym yn eich sicrhau y byddwn yn rhoi cyfweliad i unrhyw un ag anabledd y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. O ddefnyddio’r term ‘meini prawf sylfaenol’, rydym yn golygu bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni lefel y cymhwysedd sy’n ofynnol o dan bob un o’r meini prawf hanfodol.
Os hoffech wneud cais drwy’r cynllun hwn, nodwch hyn yn yr e-bost neu’r llythyr eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Addasiadau rhesymol
Os hoffech gael trafodaeth gyfrinachol ynghylch unrhyw addasiadau rhesymol yn ystod y broses, a wnewch chi nodi hyn hefyd yn yr e-bost neu’r llythyr eglurhaol.
Gwybodaeth am Adran DCMS
Mae’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn helpu i sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor.
Rydym yn diogelu ac yn hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol ac artistig, ac yn helpu busnesau a chymunedau i dyfu drwy fuddsoddi mewn arloesi a thrwy dynnu sylw at Brydain fel lle gwych i ymweld ag ef. Rydym yn helpu i roi mantais unigryw i’r DU ar y llwyfan byd-eang, gan ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd.
Mae’r DCMS yn adran dan ofal Gweinidog, a gynorthwyir gan 45 o asiantaethau a chyrff cyhoeddus.
Os nad ydych yn gwbl fodlon
Ein nod yw prosesu pob cais cyn gynted â phosibl a thrin pob ymgeisydd â chwrteisi. Os oes gennych gwyn am y ffordd yr ymdrinnir â’ch cais, cysylltwch â publicappointments@dcms.gov.uk.
Gwybodaeth ategol
Mae’r broses hon yn cael ei rheoleiddio gan God Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA). Disgwylir i bob ymgeisydd fod wedi cadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Meini prawf cymhwystra
Ni ellir eich ystyried ar gyfer penodiad cyhoeddus os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn cael eich gwneud yn fethdalwr neu’n gwneud trefniant gyda chredydwr
- mae’ch ystâd wedi’i hatafaelu yn yr Alban neu eich bod yn ymrwymo i raglen trefnu dyledion o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atodi Dyledion (yr Alban) 2002 (asp 17) fel y dyledwr neu, yn ôl cyfraith yr Alban, wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth i gredydwyr;
- rydych wedi’ch diarddel rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni o dan Ddeddf Diarddel Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986;
- rydych wedi’ch dyfarnu’n euog o drosedd, a bod yr euogfarn heb ei disbyddu at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (p. 53);
- rydych yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu methdaliad;
- rydych yn methu â datgan gwrthdaro buddiannau.
Gwrthdaro Buddiannau a Diwydrwydd Dyladwy
Os oes gennych unrhyw fuddiannau a allai fod yn berthnasol i waith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac a allai arwain at wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ymddangosiadol pe baech yn cael eich penodi, rhowch fanylion yn eich cais. Os oes gennych gwestiynau am hyn, ac os hoffech eu trafod ymhellach, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus.
O ystyried natur penodiadau cyhoeddus, mae’n bwysig bod y rheiny a benodir yn aelodau o gyrff cyhoeddus yn cadw hyder y Senedd a’r cyhoedd. Os oes unrhyw faterion yn eich hanes personol neu broffesiynol a allai, pe baech yn cael eich penodi, gael eu camddehongli, codi cywilydd, neu beryglu hyder y cyhoedd yn y penodiad, mae’n bwysig eich bod yn tynnu sylw’r Panel Asesu Ymgynghorol atynt ac yn rhoi manylion y mater(ion) yn y datganiad sy’n ategu’ch cais. Cyn penderfynu a ydych am ddatgan unrhyw faterion, dylech hefyd ystyried unrhyw ddatganiadau cyhoeddus yr ydych wedi’u gwneud, gan gynnwys drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Fel rhan o’n gwiriadau diwydrwydd dyladwy, byddwn yn ystyried unrhyw beth sydd ar gael i’r cyhoedd sy’n ymwneud â’ch ymddygiad neu’ch rhinwedd broffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys chwilio am ddatganiadau cyhoeddus blaenorol a chyfryngau cymdeithasol, blogiau neu unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’n bosibl y rhoddir yr wybodaeth hon i’r Panel Asesu Ymgynghorol, ac efallai yr hoffent drafod materion gyda chi pe baech yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Gellir hefyd rhannu’r wybodaeth â gweinidogion a Swyddfa’r Cabinet.
Applications
To apply, please send the following four documents:
- a CV of not more than two sides of A4;
- a supporting statement of not more than three sides of A4, providing examples and setting out how you meet the criteria;
- the Diversity Monitoring Form concerning your personal information and political activity, and the Declaration of Interests Form.
Completed applications should be emailed to publicappointments@dcms.gov.uk. Please put ‘NLCF – Wales Chair’ as the subject line of your email.
If you have any questions regarding your application please contact the Campaign Manager, Anders Egeland-Eriksen, via email at anders.eriksen@dcms.gov.uk. Each application will be assessed against the requirements set out above by the advisory assessment panel.
I wneud cais, anfonwch y canlynol:
- CV, heb fod yn fwy na dwy ochr A4
- datganiad ategol, heb fod yn fwy na thair ochr A4, gan roi enghreifftiau a nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf
- y ddwy Ffurflen Fonitro sy’n ymwneud â’ch gwybodaeth bersonol a’ch gweithgarwch gwleidyddol, a’r Ffurflen Datgan Buddiannau.
Dylid e-bostio ceisiadau wedi’u llenwi i: publicappointments@dcms.gov.uk
Nodwch ‘NLCF – Wales Chair’ yn y llinell Pwnc.
Os hoffech siarad â rhywun am y broses ymgeisio a phenodi, cysylltwch â Anders Egeland-Eriksen yn yr Adran DCMS ar anders.eriksen@dcms.gov.uk.
We guarantee to interview anyone with a disability whose application meets the minimum criteria for the role. By ‘minimum criteria,’ we mean that you must provide evidence in your application, which demonstrates that you meet the level of competence required under each of the essential criteria. If you want to apply under this scheme, simply state this in the covering email or letter when submitting your application.
If you would like a confidential discussion regarding any reasonable adjustments during the process, please also indicate this in the covering email or letter.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar lefel uchel o Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd angen i geisiadau gael eu cyflwyno yn Saesneg, a bydd cyfweliadau a chyfarfodydd Bwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael eu cynnal yn Saesneg.